Cath Fenthyg efo Myfanwy Alexander

Dyddiad:  Dydd Sul 14 Mehefin 2026

Lleoliad: Y Den, yng Ngwesty’r Ddraig

Amser: 12.00-12.45pm

Tocynnau: £9.00

Mae Cath yn wraig fferm ganol oed, yn fam i ddau o blant yn eu harddegau ac yn ceisio’i gorau i jyglo bywyd bob dydd. Un diwrnod daw ei gŵr adref a datgan ei fod yn ei gadael i fynd i fyw at amgylcheddwraig, yr eco-dywysoges, Petal.  Mae’n rhaid i Cath ddelio â’r canlyniadau. 

Dewch i ddeall pam mae Myfanwy wedi penderfynu i greu stori sy’n gyfuniad o amaethyddiaeth, tor priodas, Gwrthryfel y Pasg 1916, chwant, Clybiau Ffermwyr Ifanc, twf Ffasgiaeth yn yr Eidal, Wotsits a magu teulu, wedi’i hadrodd gyda hiwmor miniog, oll ar gefnlen mwynder Sir Drefaldwyn gyda’i geirfa a’i hacen gynnes, gyfoethog?

Nofel ddoniol, grafog sy’n portreadu bywyd cefn gwlad ar ei orau a’i waethaf.

Magwyd Myfanwy Alexander yng Nghefn Coch yn Sir Drefaldwyn ac ar ôl byw ym mhob cornel o Brydain dychwelodd i fagu chwech o ferched mewn tŷ to gwellt ger Llanfair Caereinion. Fel sgwennwr a darlledwr mae hi wedi cyfrannu i sawl rhaglen radio a theledu yn cynnwys “Round Britain Quiz” ar BBC Radio 4 a Gwobr Sony am “”The Ll Files. Mae hi wedi cyhoeddi pum nofel dditectif boblogaidd sy’n dilyn helyntion yr Arolygydd Daf Dafis, un o’n sir, ac mae un arall ar y ffordd.