Nelan a Bo gydag Angharad Price
yn sgwrsio gyda Dafydd Morgan Lewis

Dyddiad: Dydd Sul 8 Mehefin 2025
Lleoliad: Y Den, yng Ngwesty’r Ddraig
Amser: 10.00-10.45am
Tocynnau: £9.00
Awdur y clasur cyfoes O, Tyn y Gorchudd yn trafod ei nofel newydd, Nelan a Bo. Gan agor yn 1799, dyma nofel sydd wedi’i gosod mewn cyfnod o newid cymdeithasol mawr. Mae’r tir yn cael ei gau. Mae’r chwyldro diwydiannol ar droed. Mae anghydffurfiaeth yn ennill ei lle. Pa ffawd sy’n aros gwerin cefn-gwlad? Ond mae hon hefyd yn stori gariad, a hwnnw’n mynd o’r crud i’r bedd, a’i liwiau cyfnewidiol yn creu patrymau blêr o ystyr ac o deimlad ar gynfas lom y rhostir.
Mae Angharad Price yn nofelydd, ysgrifwr ac ysgolhaig. Enillodd ei nofel, O, Tyn y Gorchudd, y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2002 a Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2003. Ei nofel ddiweddaraf yw Nelan a Bo, hanes cyfeillgarwch dau blentyn yng nghyfnod cythryblus y chwyldro diwydiannol a’r Diwygiad Methodistaidd ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae Angharad yn byw yng Nghaernarfon ac yn Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.