Llygad Dieithryn gyda Simon Chandler

yn sgwrsio efo Aled Lewis Evans

Dyddiad:  Dydd Gwener 7fed Mehefin 2024

Lleoliad: Y Den, yng Nghwesty’r Draig

Amser: 6.00-6.45pm

Tocynnau: £9.00

Sut allwn ni weld ein cenedl, ein diwylliant, ein pobl mewn ffordd newydd, ffres? Mae angen inni edrych trwy lygaid dieithryn. Yn y nofel Llygad Dieithryn, mae Simon Chandler nid yn unig yn adrodd stori ddirgelwch deuluol hudolus dros y degawdau ond hefyd yn ein hannog i edrych ar Gymru mewn ffordd newydd

Mae Simon Chandler yn wreiddiol o Lundain, ond syrthiodd mewn cariad â’r Gymraeg ar ôl iddo ymweld â cheudyllau llechi Llechwedd ger Blaenau Ffestiniog.  Mae’n gyfreithiwr yn ei waith bob dydd ac mae wedi llunio cynllun cyfreithiol, Diogelwn, ar gyfer Cymdeithas yr Iaith i warchod enwau Cymraeg ar dai a thir.  Yn ogystal, fe gafodd ei nofel gyntaf, Llygad Dieithryn, ei chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch y llynedd, mae’n golofnydd i gylchgrawn Barddas ac mae ganddo englynion ym mlodeugerddi dwyieithog A470 – Cerddi’r Ffordd  a Byways.