Ysgrifennu yn y Gymraeg

DAROGAN: Siân Llywelyn yn trafod ei nofel newydd efo Mari Lovgreen

Dyddiad:  Dydd Sul 11eg Mehefin 2023

Lleoliad: Y Den, yng Nghwesty’r Draig

Amser: 12.30-1.15pm

Tocynnau: £8.00

Mae’r ‘X-Files’ yn dod i Ddolgellau yn nofel ddiweddaraf Siân Llywelyn.

Mewn lleoliad anhysbys yn Nolgellau mae pencadlys asiantaeth gudd sy’n ymchwilio i ddigwyddiadau anesboniadwy a goruwchnaturiol. Wrth i Beca a Ceri Fôn gydweithio i geisio datrys sawl dirgelwch, maent yn cael eu tynnu’n ôl i orffennol dyrys Cymru, ac yn darganfod nad o’r tu allan yn unig mae’r bygythiad.

Siân Llywelyn, 42, bron yn 43 o Benrhyndeudraeth, ond nid yn ddieithr i Faldwyn chwaith. Bu’n athrawes Ail iaith yn Llanfyllin am bron i ddeng mynedd a byw yng Nglascwm, Bwlch y Cibau am wyth mlynedd. Mae hi bellach yn ôl yng nghartref y teulu ac yn dilyn PhD mewn ysgrifennu creadigol ym Mangor. Sian wedi cyhoeddi dwy nofel : Drychwll 2020 a DAROGAN 2022.

Cyflwynydd, actores ac awdures o Gaernarfon ydi Mari Lovgreen ond sydd bellach yn byw efo’i theulu ar fferm yn Llanerfyl. Mae ei gwaith ysgrifennu yn amrywio o lyfrau plant i lyfr ar sut beth yw cael ‘Brên Babi’, ac at sgriptio sgetshes i blant ar raglenni Stwnsh a Cyw. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae Mari wedi cyflwyno amrywiaeth o raglenni ar S4C, ac ar hyn o bryd mae hi brysuraf efo’r gyfres arbennig Cefn Gwlad.